Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2022
Amser:
09.00 -
09.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Tom Jackson, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Richard Thomas, Trawsnewid Strategol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi ei datganiad o bell.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr
· Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15 munud)
· Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (15 munud)
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud cynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 26.48 ar 6 Rhagfyr er mwyn cynnig bod y Senedd yn pasio'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn syth ar ôl i drafodion Cyfnod 3 ddod i ben. Nododd y Pwyllgor Busnes ei fodlonrwydd â defnyddio’r dull hwnnw ar gyfer y Bil hwn ond mynegodd farn na ddylai fod yn arfer cyffredin.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gais gan Mabon ap Gwynfor i gyfnewid ei ddadl fer ar 14 Rhagfyr gyda dadl fer Jack Sargeant ar 7 Rhagfyr. Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:
7 Rhagfyr 2022
14 Rhagfyr 2022
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen hefyd:
Dydd Mercher 11 Ionawr 2023
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Rhagfyr:
NNDM8093
Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;
c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:
(i) yn llunio safonau BSL;.
(ii) sefydlu panel cynghori BSL;
(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;
(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;
e) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Bwyd (Cymru) - amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a diolchodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r mater hwn, a chytunodd i ystyried y pwyntiau a godwyd os, a phryd, y bydd angen ystyried unrhyw gais o’r fath yn y dyfodol.
4.3 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 16 Ionawr 2023.
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Nododd y Llywydd ei bwriad i gwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i drafod y mater a bydd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
4.5 Papur i’w nodi - llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeiryddion y Pwyllgorau ynghylch Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd lle y disgwylid i Aelod fod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023.
5.1 Cwmpas yr adolygiad a’r papur ymgynghori i’r Aelodau
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd pan fydd Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023 (20 Ionawr 2023).
6 Diwygio’r Senedd
6.1 Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ei drafodaethau ynghylch maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor i gynnig gan y Trefnydd y dylid cynyddu'r terfyn uchaf ar nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 o weinidogion fel rhan o ddeddfwriaeth Diwygio'r Senedd. Cytunodd y mwyafrif hefyd i gynnig gan y Trefnydd y dylai'r ddeddfwriaeth gynnwys mecanwaith a fyddai'n galluogi i Lywodraeth Cymru gynnig cynnydd pellach i'r terfyn hwn, hyd at uchafswm o 19, drwy is-ddeddfwriaeth, mewn amgylchiadau lle ystyrir bod cynnydd yn deilwng. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cynnydd o'r fath fod yn destun pleidlais gadarnhaol yn y Senedd.
Dywedodd Darren Millar ei farn mai 16 dylai fod y terfyn uchaf o ran nifer y Gweinidogion, ac y dylai unrhyw gynnydd pellach yn nifer y Gweinidogion gael ei gymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad ar eu canfyddiadau ar y pedwar mater y mae wedi’u hystyried mewn cyfarfod dilynol.